Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2025
Amser:
09.01 -
09.12
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan AS Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Lisa Griffiths (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Aled Ap Neill, Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Torri’r cyflenwad dŵr yng Nghonwy (45 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.20pm.
Holodd Heledd Fychan a fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu ar y cadoediad yn Gaza. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025
Nododd y Trefnydd y bydd datganiad yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror ar gyfranogiad Cymru yn nhwrnamaint Ewro Merched UEFA 2026.
Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 12 Chwefror 2025 -
Nododd y Pwyllgor Busnes na fydd y Pwyllgor Cyllid yn adrodd ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig a chytunodd y dylai Aelodau gyflwyno pynciau arfaethedig ac y dylid eu cyhoeddi ar adeg cyflwyno. Yna byddai'r Pwyllgor Busnes yn dewis un pwnc ar gyfer pob dadl, gan adael pynciau heb eu dewis ar y Cofnod. Cytunwyd dros dro y bydd y ddadl gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher 19 Mawrth.
Trafododd y Pwyllgor adroddiad drafft yn cynnwys y newid arfaethedig i Reol Sefydlog 12.19 a chytunodd arno, a chytunodd i gynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog gael ei gyflwyno i'w ystyried gan y Senedd ddydd Mercher 29 Ionawr.
Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at ystyried canllawiau manwl ynghylch Dadleuon Agored mewn cyfarfod diweddarach.